7 Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i'w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a'r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi.
8 Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr.
9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni ddaw i'm cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o'r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel.
10 A'r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd.
11 Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i'r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o'u blaen hwy i'w gwasanaethu hwynt.
12 Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu hanwiredd.
13 Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o'm pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a'u ffieidd‐dra a wnaethant.