1 Ac efe a'm dug i drachefn i ddrws y tŷ; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ tua'r dwyrain: oherwydd wyneb y tŷ oedd tua'r dwyrain; a'r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i'r allor.
2 Ac efe a'm dug i ar hyd ffordd y porth tua'r gogledd, ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua'r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau.
3 A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â'r llinyn yn ei law allan tua'r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a'm tywysodd i trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y fferau.
4 Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd; a'r dyfroedd hyd y lwynau:
5 Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y'm tywysodd, ac y'm dychwelodd hyd lan yr afon.