16 Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: Hasar‐hattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran.
17 A'r terfyn o'r môr fydd Hasarenan, terfyn Damascus, a'r gogledd tua'r gogledd, a therfyn Hamath. A dyma du y gogledd.
18 Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, ac o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr Iorddonen, o'r terfyn hyd fôr y dwyrain. A dyma du y dwyrain.
19 A'r ystlys deau tua'r deau, o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua Theman.
20 A thu y gorllewin fydd y môr mawr, o'r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorllewin.
21 Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.
22 Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i'r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.