3 A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â'r llinyn yn ei law allan tua'r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a'm tywysodd i trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y fferau.
4 Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd; a'r dyfroedd hyd y lwynau:
5 Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y'm tywysodd, ac y'm dychwelodd hyd lan yr afon.
7 Ac wedi i mi ddychwelyd, wele ar fin yr afon goed lawer iawn o'r tu yma ac o'r tu acw.
8 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i'r gwastad, ac a ânt i'r môr: ac wedi eu myned i'r môr, yr iacheir y dyfroedd.
9 A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw.