8 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i'r gwastad, ac a ânt i'r môr: ac wedi eu myned i'r môr, yr iacheir y dyfroedd.
9 A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw.
10 A bydd i'r pysgodwyr sefyll arni, o En‐gedi hyd En‐eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod y môr mawr, yn llawer iawn.
11 Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt.
12 Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth.
13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: Joseff a gaiff ddwy o rannau.
14 Hefyd chwi a'i hetifeddwch ef, bob un cystal â'i gilydd; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i'ch tadau: a'r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth.