6 A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na'r cenhedloedd, a'm deddfau yn fwy na'r gwledydd sydd o'i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a'm deddfau, ni rodiasant ynddynt.
7 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i chwi amlhau yn fwy na'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o'ch amgylch;
8 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi, ie, myfi, ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd.
9 A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum, ac nis gwnaf ei fath mwy, am dy holl ffieidd‐dra.
10 Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
11 Am hynny, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â'th holl ffieidd‐dra ac â'th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.
12 Dy draean fyddant feirw o'r haint, ac a ddarfyddant o newyn, yn dy ganol; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o'th amgylch: a thraean a daenaf gyda phob gwynt: a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.