10 Felly mi a euthum, ac a edrychais; ac wele bob llun ymlusgiad, ac anifail ffiaidd, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch:
11 A dengwr a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt, a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol, pob un â'i thuser yn ei law; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu.
12 Ac efe a ddywedodd wrthyf, a weli di, fab dyn, yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch, bob un o fewn ei ddelw‐gelloedd? canys dywedant, Nid yw yr Arglwydd yn ein gweled; gadawodd yr Arglwydd y ddaear.
13 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Tro eto, cei weled ffieidd‐dra mwy, y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur.
14 Ac efe a'm dug i ddrws porth tŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd tua'r gogledd; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus.
15 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? dychwel eto, cei weled ffieidd‐dra mwy na hyn.
16 Ac efe a'm dug i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a'u cefnau tuag at deml yr Arglwydd, a'u hwynebau tua'r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i'r haul tua'r dwyrain.