4 Ac wele yno ogoniant Duw Israel, fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd.
5 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd. Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd; ac wele, tua'r gogledd; wrth borth yr allor, ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd.
6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, y ffieidd‐dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma, i'm gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr? ac eto dychwel, cei weled ffieidd‐dra mwy.
7 Ac efe a'm dug i ddrws y cyntedd; a phan edrychais, wele dwll yn y pared.
8 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cloddia yn y pared: a phan gloddiais yn y pared, wele ddrws.
9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos i mewn, ac edrych y ffieidd‐dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur yma.
10 Felly mi a euthum, ac a edrychais; ac wele bob llun ymlusgiad, ac anifail ffiaidd, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch: