5 Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch.
6 Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a'r forwyn, y plant hefyd, a'r gwragedd; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo'r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y tŷ.
7 Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.
8 A bu, a hwy yn lladd, a'm gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O Arglwydd Dduw, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?
9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Anwiredd tŷ Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben; a llawn yw y tir o waed, a llanwyd y ddinas o gamwedd: oherwydd dywedant, Gwrthododd yr Arglwydd y ddaear, ac nid yw yr Arglwydd yn gweled.
10 Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.
11 Ac wele, y gŵr wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddywedyd, Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi.