16 Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a'u gwragedd a dreisir.
17 Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a'r aur nid ymhyfrydant ynddo.
18 Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: eu llygad nid eiriach y rhai bach.
19 A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr Duw ar Sodom a Gomorra.
20 Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a'r bugeiliaid ni chorlannant yno.
21 Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a'u tai hwynt a lenwir o ormesiaid, a chywion yr estrys a drigant yno, a'r ellyllon a lamant yno:
22 A'r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a'r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: a'i hamser sydd yn agos i ddyfod, a'i dyddiau nid oedir.