6 Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw.
7 Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd:
8 A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a'u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.
9 Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni.
10 Canys sêr y nefoedd, a'u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a'r lloer ni oleua â'i llewyrch.
11 A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddrygioni, ac â'r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.
12 Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chŷn o aur Offir.