11 Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
12 Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:
13 Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan,
14 Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig,
15 Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn,
16 Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol.
17 Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.