15 Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn,
16 Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol.
17 Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
18 A'r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol.
19 A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
20 Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i'w haddoli, i'r wadd ac i'r ystlumod:
21 I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.