18 A'r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol.
19 A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
20 Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i'w haddoli, i'r wadd ac i'r ystlumod:
21 I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
22 Peidiwch chwithau â'r dyn yr hwn sydd â'i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?