13 Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.
14 Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr Arglwydd, bloeddiant o'r môr.
15 Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd, enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr.
16 O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i'r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o'r fath anffyddlonaf.
17 Dychryn, a ffos, a magl fydd arnat ti, breswylydd y ddaear.
18 A'r hwn a ffy rhag trwst y dychryn, a syrth yn y ffos; a'r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagl: oherwydd ffenestri o'r uchelder a agorwyd, a seiliau y ddaear sydd yn crynu.
19 Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsymudodd y ddaear.