7 Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.
8 Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.
9 Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant.
10 Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn.
11 Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith.
12 Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.
13 Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.