1 Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win.
2 Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr Arglwydd, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw.
3 Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim.
4 Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a'i llwnc hi, a hi eto yn ei law.
5 Yn y dydd hwnnw y bydd Arglwydd y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl;
6 Ac yn ysbryd barn i'r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i'r rhai a ddychwelant y rhyfel i'r porth.
7 Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a'r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn.