1 A Phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ yr Arglwydd.
2 Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.
3 A hwy a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.
4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i'w gael.