15 A Heseceia a weddïodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd,
16 Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt Dduw, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear.
17 Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando; agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.
18 Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a'u gwledydd,
19 A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.
20 Yr awr hon gan hynny, O Arglwydd ein Duw, achub ni o'i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd, tydi yn unig.
21 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria: