6 A'r rhai oll o'u hamgylch a'u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.
7 A'r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:
8 Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a'u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda.
9 A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll,
10 Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill.
11 Yr holl lestri, yn aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda'r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.