1 Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
2 Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
3 Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
4 Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
5 Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf:
6 Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel: a'r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef.
7 A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion, a'r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i'r brenin Artacsercses.
8 Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i'r brenin.
9 Canys ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o'r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef.
10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i'w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd, a'i ddeddfau ef i Israel.
12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, perffaith dangnefedd, a'r amser a'r amser.
13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o'i offeiriaid ef, a'i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi.
14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a'i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di;
15 Ac i ddwyn yr arian a'r aur a offrymodd y brenin a'i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem,
16 A'r holl arian a'r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a'r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem:
17 Fel y prynych yn ebrwydd â'r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a'u bwyd‐offrymau, a'u diod‐offrymau, a'u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.
18 A'r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â'r rhan arall o'r arian a'r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw.
19 A'r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw, dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem.
20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin.
21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i'r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd;
22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur.
23 Beth bynnag yw gorchymyn Duw y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ Duw y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a'i feibion?
24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a'r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ Dduw hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth.
25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy Dduw, yr hwn sydd yn dy law, gosod swyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o'r tu hwnt i'r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw; a dysgwch y rhai nis medrant.
26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i'w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar.
27 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Jerwsalem:
28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a'i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.