1 Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.
2 I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi.
3 Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd.
4 Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn.
5 Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.
6 Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.
7 Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.
8 Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.
9 Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.
10 Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.
11 Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.
12 Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.
13 Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.
14 Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.
15 Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.
16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.
17 A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni.
18 A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr Arglwydd.
19 Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod a'r bustl.
20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi.
21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.
23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.
24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.
25 Daionus yw yr Arglwydd i'r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i'r enaid a'i ceisio.
26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd.
27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid.
28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.
29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith.
30 Efe a ddyry ei gern i'r hwn a'i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd.
31 Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd:
32 Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau.
33 Canys nid o'i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.
34 I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed,
35 I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf,
36 Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.
37 Pwy a ddywed y bydd dim, heb i'r Arglwydd ei orchymyn?
38 Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?
39 Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod?
40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd.
41 Dyrchafwn ein calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd.
42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.
43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.
44 Ti a'th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.
45 Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.
46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.
47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.
48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl.
49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra;
50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o'r nefoedd.
51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas.
52 Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.
53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.
54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.
55 Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o'r pwll isaf.
56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a'm gwaedd.
57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.
58 Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda'm henaid: gwaredaist fy einioes.
59 Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i.
60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a'u holl amcanion i'm herbyn i.
61 Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a'u holl fwriadau i'm herbyn;
62 Gwefusau y rhai a godant i'm herbyn, a'u myfyrdod i'm herbyn ar hyd y dydd.
63 Edrych ar eu heisteddiad a'u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.
64 Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo.
65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt.
66 Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.