14 Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch.
15 Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.
16 Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a'u difetha hwynt â'i fyddinoedd.
17 Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:
18 Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth.
19 Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, a'm traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau.