6 Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo.
7 Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian.
8 A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?
9 Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.
10 Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.
11 Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair.
12 Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter.