1 Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â'r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i'r Aifft.
2 Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.
3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw.
4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;