2 Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.
3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw.
4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;
5 Sef Arglwydd Dduw y lluoedd: yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth.
6 Tro dithau at dy Dduw; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.
8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.