21 A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a'i holl gedyrn, a'r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i'r Aifft.
22 A'r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i'r Aifft, sef Elnathan mab Achbor, a gwŷr gydag ef i'r Aifft:
23 A hwy a gyrchasant Ureia allan o'r Aifft, ac a'i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a'i lladdodd ef â'r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin.
24 Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y bobl i'w ladd.