1 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,
2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Gwna i ti rwymau a gefynnau, a dod hwynt am dy wddf;
3 Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda;
4 A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi;
5 Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a'r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â'm grym mawr, ac â'm braich estynedig, ac a'u rhoddais hwynt i'r neb y gwelais yn dda.