8 Ond y genedl a'r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a'r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â'r genedl honno, medd yr Arglwydd, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.
9 Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:
10 Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i'ch gyrru chwi ymhell o'ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch.
11 Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a'i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr Arglwydd; a hwy a'i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.
12 Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a'i bobl, fel y byddoch byw.
13 Paham y byddwch feirw, ti a'th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon?
14 Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proffwydo celwydd i chwi.