1 Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, a'i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni.
2 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o'r mis, y torrwyd y ddinas.
3 A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sef Nergal‐sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal‐sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.
4 A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a'r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i'r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua'r anialwch.
5 A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a'i daliasant ef, ac a'i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribla yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe farn arno.