6 Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda.
7 Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymodd ef â chadwynau i'w ddwyn i Babilon.
8 A'r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem.
9 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a'r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid.
10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.
11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd,
12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo.