Jeremeia 40:1-7 BWM

1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon.

2 A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia, ac a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd dy Dduw a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn.

3 A'r Arglwydd a'i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd: am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar ei lais ef, am hynny y daeth y peth hyn i chwi.

4 Ac yn awr wele, mi a'th ryddheais di heddiw o'r cadwynau oedd am dy ddwylo: os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon, tyred, a myfi a fyddaf da wrthyt: ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon, paid; wele yr holl dir o'th flaen di: i'r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned, yno dos.

5 Ac yn awr, ac efe eto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, Dychwel at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl: neu dos lle y gwelych di yn dda fyned. Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd, ac a'i gollyngodd ef ymaith.

6 Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa, ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad.

7 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt‐hwy a'u gwŷr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o dlodion y wlad, o'r rhai ni chaethgludasid i Babilon;