19 Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?
20 Am hynny gwrandewch gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.
21 Gan lef eu cwymp hwynt y crŷn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch.
22 Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.
23 Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys.
24 Damascus a lesgaodd, ac a ymdrŷ i ffoi, ond dychryn a'i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a'i daliodd hi fel gwraig yn esgor.
25 Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?