35 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.
36 A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a'u gwasgaraf hwynt tua'r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam.
37 Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a'r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr Arglwydd; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.
38 A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a'r tywysogion, medd yr Arglwydd.
39 Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr Arglwydd.