1 A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd,
2 Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.
3 A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr Arglwydd. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.
4 A Jona a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir.