6 Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw.
7 Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr.
8 Gwisger dyn ac anifail â sachlen, a galwant ar Dduw yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo.
9 Pwy a ŵyr a dry Duw ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?
10 A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt, ac nis gwnaeth.