17 A'r bustach, a'i groen, a'i gig, a'i fiswail, a losgodd efe mewn tân o'r tu allan i'r gwersyll: fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
18 Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd:
19 Ac efe a'i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.
20 Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a'r gwêr.
21 Ond y perfedd a'r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i'r Arglwydd; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.
22 Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd.
23 Ac efe a'i lladdodd; a Moses a gymerodd o'i waed, ac a'i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.