1 Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i'w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd.
2 Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion.
3 Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a'u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i'r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder.
4 Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt.
5 A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a'r amddifad, a'r dieithr, ac heb fy ofni i, medd Arglwydd y lluoedd.
6 Canys myfi yr Arglwydd ni'm newidir; am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob.
7 Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?