10 Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn.
11 Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd.
12 A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.
13 Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr Arglwydd: eto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di?
14 Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd?
15 Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai a demtiant Dduw, a waredwyd.
16 Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a'r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.