6 Canys myfi yr Arglwydd ni'm newidir; am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob.
7 Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?
8 A ysbeilia dyn Dduw? eto chwi a'm hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y'th ysbeiliasom? Yn y degwm a'r offrwm.
9 Melltigedig ydych trwy felltith: canys chwi a'm hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon.
10 Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn.
11 Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd.
12 A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.