1 Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
2 Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.
3 A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd Arglwydd y lluoedd.
4 Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a'r barnedigaethau.