9 Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
10 Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra.
11 Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan.
12 Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem.
13 Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.
14 Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel.
15 Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswylferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel.