5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.
6 Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo.
7 Daionus yw yr Arglwydd, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo.
8 A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.
9 Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith.
10 Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
11 Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd: cynghorwr drygionus.