2 Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effrateaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno.
3 Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a'i dau fab a adawyd.
4 A hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.
5 A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a'r wraig a adawyd yn amddifad o'i dau fab, ac o'i gŵr.
6 A hi a gyfododd, a'i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i'r Arglwydd ymweled â'i bobl gan roddi iddynt fara.
7 A hi a aeth o'r lle yr oedd hi ynddo, a'i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda.
8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw, ac â minnau.