18 Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.
19 Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i'r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl.
20 Y mae y cwbl yn myned i'r un lle: pob un sydd o'r pridd, a phob un a dry i'r pridd eilwaith.
21 Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail, yr hwn sydd yn disgyn i waered i'r ddaear?
22 Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a'i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?