1 Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.
2 Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a'r byw a'i gesyd at ei galon.
3 Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon.
4 Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.