2 Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin, a hynny oherwydd llw Duw.
3 Na ddos ar frys allan o'i olwg ef; na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun.
4 Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur?
5 Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn.
6 Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno.
7 Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd?
8 Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog.