4 Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur?
5 Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn.
6 Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno.
7 Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd?
8 Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog.
9 Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo.
10 Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd.