10 Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i'w wneuthur, gwna â'th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.
11 Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na'r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na'r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll.
12 Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â'r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.
13 Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi:
14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn:
15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â'i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.
16 Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.