14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn:
15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â'i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.
16 Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.
17 Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid.
18 Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.